24ain o Chwefror 2010 Sian Teifi: Mary, Sali a Fi
Fel awdures ac adroddwraig a enillodd wobr Llwyd o’r Bryn ragor nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr adwaenwn Sian Teifi. Mae hi hefyd yn gynhyrchydd teledu. Cawsom sgwrs ddiddorol ganddi ar yr awdures Mary Wyn Jones, a Sali Mali ei llyfr hynod boblogaidd i blant. Ar y pryd roedd Sian Teifi yn ysgrifennu ac yn cynhyrchu’r gyfres ddrama ar gyfer plant meithrin, “Cei Bach”. Anelwyd y sgwrs at oedolion ac roedd yn cynnwys pytiau o ffilm.
Yn glo i’r noson cyhoeddwyd Ellyll Hyll a Ballu (£5), gan Mary Hughes a chafwyd gair gan Anwen Roberts, Prifysgol Bangor.
Paned ar y dechrau. Ni chodwyd tâl mynediad.
31ain o Fawrth 2010 Dr Goronwy Wynne: Y Traddodiad Plygain
Cyfle i fwynhau gwrando ar y gwyddonydd a’r cerddor yn ymdrin â gwahanol agweddau ar draddodiad plygain cyfoethog Cymru. Paned ar y dechrau. Ni chodwyd tâl mynediad.
28ain o Ebrill 2010: Emlyn Richards: Mae ddoe wedi mynd
Darlith gan ddarlithydd poblogaidd, un o bennaf pregethwyr y pulpud Cymreig a chyfaill da i’r Ganolfan hon. Ni chodwyd tâl mynediad. Paned ar y dechrau
26 Mai 2010: Darlith Flynyddol Utgorn Cymru gan Y Prifardd Ieuan Wyn:
Abergarthcelyn y Tywysogion:
ar hanes Tywysogion Cymru ac yn arbennig hanes Garthcelyn – Llys y Tywysogion yn Abergwyngregyn – a Llan-faes dros y Fenai. Roedd y ddarlith hon yn agoriad llygad ar y cyfnod hwnnw ac yn datgelu rhai ffeithiau newydd inni. Tâl mynediad: £3.
Ar ddiwedd y ddarlith roedd cyfle i brynu cryno ddisg o ddarlith y llynedd: Eos Morlais, Tenor Cymru gan Hywel Teifi Edwards.
Mehefin – 28 Gorffennaf
ARDDANGOSFA FFORDD Y PERERINION – Clynnog Fawr i Enlli
Yn ogystal â’r eglwysi diddorol ar y ffordd, rhoddwyd sylw i henebion, ffynhonnau a’u rhinweddau meddyginiaethol, rhai tai nodedig a mannau o ddiddordeb neilltuol ar yr arfordir. Cyflwynwyd y cyfan fesul ardal drwy gyfrwng gwybodaeth ddifyr a lluniau trawiadol [yn cynnwys rhai gwych wedi eu tynnu o’r awyr]. Hefyd dangoswyd ffilm 18 munud o safon broffesiynol i gyd-fynd â’r arddangosfa.
Roedd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn o 1.30 – 4.00 pm ac ar adegau eraill i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw. Oherwydd ei phoblogrwydd ailagorwyd yr Arddangosfa hon ym mis Medi 2010 – eto ar brynhawniau Mercher a Sadwrn ac i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw.
Pris mynediad £2 – yn cynnwys mynediad i ardd y Ganolfan y bu Gerallt Pennant mor hael ei ganmoliaeth iddi ar ei raglen radio Galwad Cynnar a’r rhaglen deledu Wedi Saith y darlledwyd rhan ohoni yn fyw ganddo o’r ardd a’r Ganolfan hon ar yr 28ain o Fehefin 2010.
Derbyniwyd nawdd tuag at y ffilm a’r arddangosfa hon o Gronfa Datblygu Cynaladwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Llwybr yr Arfordir.
29 Medi 2010 – Cledwyn Jones: Triawd y Coleg
Cyfle i wrando ar un o’r Triawd, yn rhoi sgwrs ar y triawd hynod boblogaidd hwn ac yn ymdrin â rhai o’u caneuon. Cafwyd cyfle i wrando ar rai o’r caneuon yn ogystal. Hefyd cyhoeddwyd llyfr gan Aelwen Roberts ar hanes Mary King Sarah, y gantores enwog o Ddyffryn Nantlle. (£5).
27 Hydref 2010 – Hafina Clwyd: Hel Achau Ardaloedd
Sgwrs gan yr awdures a’r newyddiadurwraig ar bwnc cynyddol boblogaidd. Hefyd cyhoeddwyd, yn berthnasol i’r testun, lyfr gan Marian Elias Roberts ar hanes Teulu Tan-y-clawdd a’i achau a’r hen gymdeithas ddirodres Gymraeg a oedd, hyd yn gymharol ddiweddar fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog. (£4)