18 Mehefin, 2009 Darlith Flynyddol Utgorn Cymru
Yr Athro Hywel Teifi Edwards: Eos Morlais
Noddwyd ar y cyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai a’r Academi Gymreig. Mynediad £3. Roedd CD o ddarlith 2008 ar werth ar y noson am £5 yr un: Yr Athro Hywel Teifi Edwards: Cymru a’i Harwyr
5 Medi 2009 (Bore Sadwrn) Taith Gerdded gyda Lea Hughes, (Swyddog Prosiect yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol)
Ymgynullwyd ger Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am 10.30am Troi i’r dde yn Llwyn-y-Ne a dilyn Llwybr Cae’r bont I fyny Lôn Pant a heibio i Gilyllidiart I fyny’r Ffordd DdrwgTrwy fuarth Hafod-y-Wern A dilyn Ffordd Hafod-y-rhiw a Bryngolau Hyd at Warchodfa Tan-y-Bwlch Yno roedd Rhydian Morris o’r Ymddiriedolaeth Natur, yn sôn am ei waith yn y Warchodfa. Yna dychwelwyd i lawr Lôn Jeri a Gallt Mur Sant i’r Ganolfan Hanes i gael paned o de a bara brith yn yr ardd.
30 Medi 2009: Canu’r Cymry
yng nghwmni’r digyffelyb Arfon Gwilym a Sioned Webb
21ain Hydref 2009 Epil Gwiberod yr Iwnion Jac
Noson cyhoeddi’r gyfrol Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Geraint Jones) sef casgliad o ysgrifau’r golofn boblogaidd Sêt y Gornel a gyhoeddid yn wythnosol yn Y Cymro yn ystod 2005/6. Cyflwynydd y llyfr: Y Prifardd Ieuan Wyn Yn ystod y cyfarfod cafwyd cyflwyniad crafog gan rai o aelodau’r Ganolfan Hanes: GWIBEROD WINDSOR. Llywyddwyd gan Geraint Lloyd Owen a chyhoeddwyd y llyfr gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon. Pris y llyfr: £8.95 Mynediad am ddim. Paned ar y dechrau.
20 Tachwedd 2009: Noson cyhoeddi Hunangofiant Malcolm Allen
gan Y Lolfa am 7.30 yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon. Ysgrifennwyd yr Hunangofiant gan Geraint Jones. Cyflwynwyd holl elw gwerthiant y noson i goffrau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
25 Tachwedd 2009: Wil Aaron yn cyflwyno ac yn dangos y ffilm Y Ddau Frawd
Clasur o ffilm gan Wil Aaron o’i gyfres deledu boblogaidd, Almanac. Ysgrifennwyd y sgript gan W.S. Jones am y ddau frawd hynod o’r Galltraeth yn Llŷn. Cawsant ffrae mor ddifrifol nes treulio blynyddoedd heb dorri gair â’i gilydd, er eu bod yn byw yn yr un tŷ ac yn addoli yn yr un capel – am gyfnod hwy ill dau oedd yr unig aelodau – Griffith Jones yn y sêt fawr a Watkin Jones yn y sêt agosaf at y drws yng nghefn y capel, ond âi’r gwasanaeth rhagddo yn union fel pe bai’r capel yn llawn. Paned ar y dechrau. Mynediad am ddim.
6 Rhagfyr 2009 Arddangosfa hen luniau a hen ffilmiau o Ddyffryn Nantlle
yn Neuadd Goffa Pen-y-groes 11 o’r gloch y bore – 5 o’r gloch yr hwyr. Dangoswyd y ffilmiau am 1.30 a 3.30 (i barhau am awr ar y tro). Trefnwyd gan Gylch Meithrin Pen-y-groes mewn cydweithrediad â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai.