2008

 17 Mai – 26 Mehefin –  Arddangosfa Hen Dai (I)

Agoriad llygad i’r cyfoeth sydd wrth ein traed yn Uwchgwyrfai, sef plwyfi  Llanaelhaearn, Clynnog, Llanllyfni, Llandwrog a Llanwnda:

Hanes Plas Elerninon, Trefor am fil o flynyddoedd,  a rhestr o’r tenantiaid a’r perchnogion o’r flwyddyn 1377.

Lluniau a hanes rhyfeddol dau hen, hen dŷ ym Mhen-y-groes.

Hanes diddorol  Maenor Cwm. (Rhoddwyd trefgordd Cwm gan Lywelyn Fawr i fynaich Abaty Aberconwy drwy siarter ym 1198).

Hanes tai a thyddynnod unigol.

Lluniau tai’r Rheilffordd.

A llawer mwy.

Hefyd dangoswyd  lluniau dyfrlliw o dai o waith William Selwyn, Robert Williams (Pen-y-groes), Jasmine Hughes (Llandegfan) a Carol Hughes (Y Groeslon) a llun diweddar Karen Jones (Waun-fawr) mewn enamel a gwydr.

Oriau Agor:   Mercher a Sadwrn 1.30 – 4 o’r gloch     Tâl Mynediad i’r Arddangosfa a’r Ardd Gymunedol Hanesyddol:     £2        Plant am ddim

Nos Sul, 29 Mehefin – Noson Cyhoeddi CD Cantorion Bro’r Eifl

Gwrandawyd ar yr holl gynnwys o’i gwr a chafwyd lluniau PowerPoint a sylwadau perthnasol ar y cantorion a’r caneuon gan Geraint Jones. Mae’r recordiadau fel ag y’u cafwyd (mwy neu lai).  Mae’n galondid eu bod bellach ar gof a chadw i bawb fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl beth o’r glendid a fu a hynny yn y Gymru ryfedd hon sy’n gynyddol ddibris o’i hetifeddiaeth a’i hen ddiwylliant gwâr. Mynediad am ddim oherwydd y gwerthwyd CD (pris £10) ar ddiwedd y cyfarfod. Ond roedd angen archebu tocyn ymlaen llaw gan mai lle i nifer cyfyngedig sydd yn yr Ysgoldy.

Cynnwys y CD: Y Cantorion (yn nhrefn yr wyddor):                                      George Baum, Trefor                                                                                                   Tal Griffith, Llithfaen                                                                                            Arthur Jones, Llanaelhaearn / Llanrug                                                           Dafydd Morris Jones, Wernol, Chwilog                                                            Elwyn Jones, Llanaelhaearn / Llanbedrog                                                        Emlyn Jones, Llanaelhaearn / Morfa Nefyn                                                        Jane Jones, Trefor / Pwllheli                                                                             William Jones (Wil Parsal), Trefor                                                                       Gwen Owen, Pencaenewydd                                                                                    Ithel Parry, Y Ffôr                                                                                                      Bobi Roberts, Hafod, Llithfaen                                                                 H.E.Roberts (Tenorydd yr Eifl), Llithfaen                                                           Evan R. Thomas, Llanaelhaearn / Y Ffôr                                                           Lottie Thomas, Trefor / Y Ffôr                                                                                     Mathias Williams, Trefor                                                                                          Tom Williams, Llwyn Annas, Chwilog                                                              William R. Williams (Llwyn), Pistyll                                                                        Côr Glannau Erch (Tal Griffith)

26 Medi – cyhoeddi cryno-ddisg, Rhif 1, Beirdd Bro:  Myrddin ap Dafydd

Yn Nhafarn y Fic, Llithfaen pryd y gwelwyd cyhoeddi llyfr a chryno-ddisg a chlywed y bardd yn darllen rhai o’i gerddi:

Bore Newydd: casgliad newydd o gerddi Myrddin ap Dafydd. Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch.

Cryno ddisg, Rhif 1, Beirdd Bro:  33 o gerddi Myrddin ap Dafydd yn cael eu darllen, gyda gair o gyflwyniad i bob cerdd, gan y bardd ei hun. Y rhyfeddod yw bod cymaint o amrywiaeth yn nhestunau a mesurau’r cerddi a bod y cynnwys yn gofiadwy ac ysbrydoledig ac mor hawdd gwrando arnynt.  Braint fawr oedd eu cyhoeddi yng Ngwasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Medi – 18 Hydref  Arddangosfa Hen Dai II

Ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 1.30 – 4 o’r gloch. Parhad oedd hon o’n harddangosfa flaenorol (Mai/Mehefin) ac roedd yn cynnwys peth gwybodaeth a lluniau newydd hynod ddiddorol.Rhoddwyd cyfle i ysgolion a chymdeithasau drefnu ymweliadau ymlaen llaw.

29 Hydref – Noson cyhoeddi cryno-disg Emlyn a Harri: Byd y Baledi a Byd y Llofft Stabal

Yn Neuadd Sarn Meillteyrn yng nghwmni Emlyn a Harri Richards.  Mynediad, paned a llond gwlad o hwyl Cymreig AM DDIM!

5 Tachwedd – Noson cyhoeddi “Gwr Hynod Uwchlaw’rffynnongan Geraint Jones

Dathlu cyhoeddi cyfrol hardd, llawn lluniau lliw, yn cyflwyno hanes Robert Hughes o Lanaelhaearn – porthmon, ffarmwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr, areithiwr dirwest – ac arlunydd gwlad. Dyn hynod yn wir! Cynhwysir holl achau’r teulu lluosog.

Y noson hon dangoswyd dros drigain o ddarluniau Robert Hughes ar y sgrin fawr sydd yn y Ganolfan a chafwyd gair neu ddau gan yr awdur, Geraint Jones, am rai o’r cymeriadau hynod a’r golygfeydd “rhyfeddol”.     Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.  Pris y llyfr: £9.50 (£11.50 trwy’r post o’r cyfeiriad hwn:   Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd.  Ll54 5BT

25 Tachwedd – Noson cyhoeddi “Am y Tywydd” gan Twm Elias

Gwahoddiad gan Wasg Carreg Gwalch i ddod drwy’r eira mawr a’r rhew a niwloedd Tachwedd a sgrympiau Gŵyl Grog i ddathlu cyhoeddi’r casgliad swmpus hwn o ddywediadau difyr – testun sgyrsiau am genedlaethau!

Cafwyd cyflwyniad Powerpoint gan yr awdur a phaned a mins pei. Pris y llyfr: £12 – ar werth gan y Ganolfan ar y noson.  Mynediad am ddim.

Nos Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008  Noson cyhoeddi Teulu’r Post Llanwnda” gan Aelwen Roberts yng Nghanolfan Bro Llanwnda

Gwahoddiad gan Wasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, i ddathlu cyhoeddi llyfryn sydd yn portreadu pedair cenhedlaeth yn hanes Swyddfa’r Post, Llanwnda a gaewyd yn Nhachwedd 2008.

Cafwyd cyflwyniad gan Aelwen Roberts a chymerwyd rhan gan aelodau ifainc o deulu’r Post – dau ohonynt yn aelodau o Gôr Glanaethwy – unawd ar y piano gan Miriam, carol gan y ddau frawd Ifan ac Emyr Jones a’u cyfyrder Dafydd Siôn, yna unawd gan  Emyr i gyfeiliant Siân Wyn Gibson.  Mwynhawyd paned a mins pei ar y diwedd.  Mynediad am ddim.  Pris y llyfr £4.

16 Rhagfyr 2008 – Cyflwyno (i) Ellyll Hyll a Ballu (Mary Hughes)

Llyfr chwedlau Uwchgwyrfai a ysgrifennwyd i blant gan Mary Hughes ac a gyhoeddwyd yn Ysgol Brynaerau yng nghwmni Ysgolion Carmel a’r Groeslon. Darllenodd yr awdur  un o’r chwedlau.  Yr oedd yr arlunydd, Jasmine Hughes hefyd yn bresennol – arluniodd 12 llun lliw hardd ac 8 du a gwyn i gyd-fynd â’r chwedlau.  Maint y llyfr: A5, 52 tudalen.   Pris £5. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

(ii) Llyfr Lliwio i Blant gan Dafydd Jones                                                  12 llun i’w lliwio:

Trol a cheffyl                                                                                                           Pen’rallt Uchaf, Clynnog Fawr                                                                                        Trol a mul                                                                                                                    Diwrnod dyrnu                                                                                                           Siop yn Nhal-y-sarn                                                                                               Amser chwarae yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes                                                       Maen Dylan                                                                                                                  Cromlech Bachwen                                                                                          Chwarelwr yn hollti llechi                                                                                       Gwerthu llefrith ym Mhen-y-groes                                                                             Capel                                                                                                                         Eglwys Beuno Sant

Pris: £2      A4  12 tudalen     Cyhoeddwyd eto gan Wasg yr Utgorn.