2007

Ebrill 23 – 25  Tair Noson o Hen Ffilmiau

Rhaglen o tua awr a hanner o hen ffilmiau, yn cynnwys:

Y Llygad Coch  (enw llechen Dyffryn Nantlle)   Ffilm wefreiddiol BBC Cymru o Ddyffryn Nantlle, yn 1967 yn dangos Chwarel Dorothea a rhai chwarelwyr – yn bennaf Evan John Jones.  Cymerir rhannau gan  T.H. Parry-Williams a  Thomas Parry, William Pleming (Goruchwyliwr Dorothea), Band Nantlle, chwarelwr ifanc yn Chwarel y Cilgwyn ayb.   Ysgrifennwyd y sgript gan Gruffudd Parry, y llefarydd oedd W.H. Roberts a’r cynhyrchydd oedd John Roberts Williams. Caewyd y Chwarel ymhen ychydig flynyddoedd wedyn.

Chwarel Penyrorsedd c. 1950 yn cynnwys llwytho’r “blondins” sef y gwifrau y cludid y llwythi arnynt dros y twll chwarel (enwyd ar ôl y Ffrancwr a groesodd y Niagara ar wifren dros 30 o weithiau.  “Gwylanod” yw’r enw yng Ngwaith Mawr Trefor)

Gwaith Mawr Trefor 1929 ac un arall 1959/60

Pysgota Mecryll ym mae Caernarfon 1959

A ffilmiau eraill

Pleser oedd croesawu Glenda Evans, Abergele, merch y diweddar Evan John Jones, y chwarelwr diwylliedig o Dal-ysarn, i’r cyfarfod hwn;   Alwyn a Helen Pleming, mab a merch William Pleming, y Goruchwyliwr,  a theulu’r diweddar Gruffudd Parry.

Mai 23 –   Arddangosfa’r Môr, Môr-ladron, Llongddrylliadau a hanes yr arfordir o’r Foryd i Edern

I’w hagor cafwyd sgwrs gan Twm Elias ar Smyglars, sef enw’r llyfr a gyhoeddwyd yr un noson gan Wasg Carreg Gwalch ac a ysgrifennwyd gan y diweddar Dafydd Meirion ac yntau. Roedd tocynnau ar werth.

Parhaodd yr arddangosfa hon trwy’r haf hyd at ddechrau Medi ac roedd yn agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) a thrwy drefniant ymlaen llaw ar adegau eraill.

Cynnwys yr Arddangosfa:

Llongddrylliadau:

Y Cyprian – collwyd 20 ger Edern                                                                  Lady Hincks                                                                                                               Y Fortuna  –  daeth i’r lan ger Gurn Goch.   Collwyd 5 o’r criw.                      Y Timbo   –   collwyd 9 ger Pontllyfni, yn cynnwys 5 aelod o fad achub Rhoscolyn.

Harbwr Trefor:

Bu Trefor yn harbwr pwysig byd-enwog.                                                           Trwy garedigrwydd Geraint Jones mae gennym gasgliad diddorol o luniau o’r Cei ar wahanol adegau a chynlluniau Cei Trefor.                          A physgota.                                                                                                Trychineb 1795

Smyglwyr:

Peth cymharol ddiweddar ydi i lywodraeth Prydain ddibynnu ar dreth incwm i gael arian i redeg y gwahanol wledydd o’i mewn. Mor ddiweddar â 1842 cyflwynodd Syr Robert Peel fesur yn Senedd i drethu incwm o saith geiniog yn y bunt – i wneud iawn am golli’r elw a geid o’r dreth ar nwyddau o dramor.

Cyn hynny dibynnid ar y trethi ar nwyddau a fewnforid i redeg y wlad. Byddai’n rhaid i gapteiniaid llongau alw heibio i’r tolldai cyn dechrau dadlwytho eu llongau er mwyn i’r dreth briodol gael ei phennu ar y cargo.

Derbynnid tua £6 miliwn o arian tollau bob blwyddyn rhwng 1760 a 1813.  Ond roedd o leiaf £2 i £3 miliwn arall yn mynd “ar goll” oherwydd smyglo.  (o’r llyfr Smyglwyr a oedd ar werth.)

 Broc Môr

 Gwahanol fathau o glymau ar raffau llong

Sbigyn Datrys y Royal Charter (i ddatrys cwlwm ar raff).

Pysgota Mecryll a Gorad Beuno – lle yr arferai Beuno bysgota.

Y Mabinogi:

Yr hyn sydd yn rhyfeddol ydi fod cymaint o leoedd yn y cyffiniau hyn sydd yn deillio o’r cyfnod cyn-hanes.    Fe’u henwir yn ein llenyddiaeth gynharaf yn y Gymraeg – yn Storïau’r Mabinogi.

Ond mae cyfeiriadau at yr ardal hon yn Englynion y Beddau hefyd – ein barddoniaeth gynharaf un yn Y Gymraeg.

Erydu’r tir:

Gw. Y Borth – tai pysgotwyr ar lan-môr Clynnog – dan Ty’n-coed. Llun o’r tai hyn yn y 1880au.  Llun yn 1974   2007 – dim olion o gwbl – y môr wedi erydu’r cwbl.     Gwelwyd ffigurau’n dangos faint o dir mae’r môr wedi ei erydu o’r drydedd ganrif ar ddeg hyd heddiw.

Y cychod:

Modelau o waith Percy Japheth o Drefor.                                                          Y cwch pren: gwaith Bert Japheth – ei efaill.

Gorffennaf 6ed  Noson yng nghwmni Llio Rhydderch, virtuoso’r delyn deires.

 yng Nghapel Beuno. Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.

Medi 12fed – agor Arddangosfa Melin Faesog

Parhaodd yr arddangosfa hon hyd at Dachwedd 28 ac roedd yn agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) ac ar adegau eraill trwy drefniant ymlaen llaw i gymdeithasau ac ysgolion.

Yr oedd un un o berchnogion y Felin hon yn ddigon cefnog i fedru talu am bleserau drudion un o’r meibion pan oedd yn fyfyriwr yn un o golegau Rhydychen a hynny efo arian rhent Melin Faesog, Bachwen a Choch-y-big. Yr oedd un arall yn gerddor a chôrfeistr.

Un o’u disgynyddion hwy a sefydlodd Gapel y Mormoniaid yn Ffestiniog ond yn wyneb y sen a’r gwawd a dderbynient penderfynasant deithio yr holl ffordd i Seion, sef Dinas y Llyn Halen yn Utah, Unol Daleithiau America ac ymsefydlu yno.  Yr oeddent ymysg y deng mil o gyffelyb fryd a adawodd Gymru am Utah yn y 1840au a’r 1850au, gan deithio ar longau hwyliau, yna ar gychod llai, ar wagenni a dynnid gan ychen, ac ar droed, wedi llwyr ddiffygio a rhai wedi eu claddu ar y ffordd o ganlyniad i’r geri marwol.

Yn ystod yr arddangosfa cafwyd ymweliad gan lond bws o drigolion Dinas y Llyn Halen dan arweiniad Yr Athro Ron Dennis – awdurdod ar hanes y Mormoniaid Cymreig ac sydd wedi dysgu Cymraeg i fedru darllen y miloedd o lawysgrifau a gadwyd mor ofalus gan y dewrion hynny.

Darparwyd yr arddangosfa hon gan Sophia Pari-Jones, Melin Faesog,      Tai’n-lôn, sydd wedi ymdrwytho yn hanes y Felin, y melinwyr a’r perchnogion diddorol.  Arddangoswyd hefyd fodel hynod gywrain o efail y gof, melin ac odyn, o waith Gwilym Jones, Tudweiliog.  A chanddo ef y cawsom restr o dermau melin.

Medi 27 – Hanes Melin Faesog:  sgwrs gan Sohpia Pari-Jones

Cyhoeddwyd y llyfryn “Melin Faesog” (Sophia Pari-Jones) gan Wasg yr Utgorn yn y cyfarfod.