Ein prif weithgareddau nesaf:
Cylchgrawn llafar:
UTGORN CYMRU (104), Gaeaf 2021
EIN GWIR HANES: Dwy ddarlith (Zoom):
11 a 12 Mawrth Nos Iau a Nos Wener Z O O M 7 o’r gloch
EIN GWIR HANES: Dr Ceridwen Lloyd-Morgan Y Brenin Arthur
Dilyniant o ddwy noson :
Nos Iau: (a) Arwr Cymraeg? Arthur mewn llenyddiaeth Gymraeg yn
yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar. Dim trafodaeth heno
ond gellir anfon cwestiynau erbyn nos yfory.
Nos Wener: (b) Darlunio hanes Arthur mewn llawysgrif Gymraeg
o’r Oesoedd Canol. Trafodaeth i ddilyn.
(Gweler y Calendr)
26 Mawrth Nos Wener Z O O M 7 o’r gloch
Yr Athro Deri Tomos : Gwyddonwyr Gwynedd
CENHADAETH
- Dyma lys cwmwd sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro.
- Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon (ar y chwith isod. Y swyddfa sydd ar y dde yn yr hen Dŷ Capel).
![]() |
![]() |
- Mae cwmwd Uwchgwyrfai yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y gogledd-ddwyrain i gopaon yr Eifl yn y gorllewin ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle.
- Dyma bum plwyf y cwmwd: Clynnog, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.
- Mae gennym gronfa o wybodaeth am Uwchgwyrfai y gall pawb gyfrannu ati, dan yr enw Cof y Cwmwd.
Yr Wyddfa o Ddyffryn Nantlle(Richard Wilson) Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr
![]() |
![]() |
Anghofio yw bradychu | Cyhoeddir fel arfer er gwaethaf yr haint.
|
Gweithredu
- Mae’r Ganolfan a’i holl weithgareddau yn gweithredu yn Gymraeg yn unig.
- Mae’n hunangynhaliol ac yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i’w chadw a’i chynnal a’i datblygu.
- EWCH AT Y PENAWDAU AR BEN Y TUDALEN HON i weld beth sydd gennym i’w gynnig.