Ein prif weithgareddau nesaf:
Mai 2022 Ni bydd unrhyw ddarlith ym mis Mai.
10 Mehefin S Ŵ M 7 o’r gloch
DARLITH FLYNYDDOL UTGORN CYMRU
Simon Brooks : Hunaniaeth y Cymry
S Ŵ M : I ymuno cysyllter â Jina : canolfanuwchgwyrfai@gmail.com
Tymor y Gwanwyn: Utgorn Cymru (109) (sgyrsiau difyr yn ymwneud â Hanes).
Mae gennym gronfa o wybodaeth am Uwchgwyrfai y gall pawb gyfrannu ati, dan yr enw Cof y Cwmwd.
CENHADAETH
- Dyma lys cwmwd sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro.
- Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon (ar y chwith isod. Y swyddfa sydd ar y dde yn yr hen Dŷ Capel).
![]() |
![]() |
- Mae cwmwd Uwchgwyrfai yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y gogledd-ddwyrain i gopaon yr Eifl yn y gorllewin ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle.
- Dyma bum plwyf y cwmwd: Clynnog, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.
- Mae gennym gronfa o wybodaeth am Uwchgwyrfai y gall pawb gyfrannu ati, dan yr enw Cof y Cwmwd.
Yr Wyddfa o Ddyffryn Nantlle(Richard Wilson) Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr
![]() |
![]() |
Anghofio yw bradychu | Cyhoeddir fel arfer er gwaethaf yr haint. |
Gweithredu
- Mae’r Ganolfan a’i holl weithgareddau yn gweithredu yn Gymraeg yn unig.
- Mae’n hunangynhaliol ac yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i’w chadw a’i chynnal a’i datblygu.
- EWCH AT Y PENAWDAU AR BEN Y TUDALEN HON i weld beth sydd gennym i’w gynnig.